R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni OAQ(4)0074(NRF)
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol? OAQ(4)0070(NRF)
3. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ(4)0069(NRF)
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y newyddion diweddar ynghylch taliadau cynnar o dan Gynllun y Taliad Sengl? OAQ(4)0071(NRF)W
5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y diwydiant cig coch yng Nghymru? OAQ(4)0077(NRF)
6. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli coedwigoedd yng nghymoedd y de? OAQ(4)0068(NRF)
7. David Rees (Aberafan): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo aelwydydd incwm isel i ymdopi â baich costau ynni rhemp? OAQ(4)0078(NRF)
8. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau creulondeb i anifeiliaid yng Nghymru? OAQ(4)0076(NRF)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r cymorth sydd ar gael i farchnadoedd ffermwyr ymhellach? OAQ(4)0079(NRF)
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod blaenoriaethau ei adran yn cael eu cydbwyso yn deg â blaenoriaethau adrannau eraill Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0072(NRF) TYNNWYD YN ÔL
11. Julie James (Gorllewin Abertawe): Faint sydd wedi manteisio ar y Gronfa Ecosystemau Gwydn gwerth £1.5 miliwn ers iddi gael ei lansio yn y Gelli? OAQ(4)0067(NRF)
12. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd? OAQ(4)0073(NRF)
13. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer ynni yng Nghymru? OAQ(4)0080(NRF)W
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd? OAQ(4)0066(NRF)
15. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cynnyrch o Gymru? OAQ(4)0075(NRF)
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi eu rhoi yn y Bil Tai sydd ar y gweill i ddiwygio Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001? OAQ(4)0325(HR)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa ganllawiau statudol sydd yn eu lle i ailddatblygu adeiladau? OAQ(4)0316(HR)
3. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am atebolrwydd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a darparwyr tai? OAQ(4)0315(HR)
4. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai gydag addasiadau a chymhorthion i bobl anabl yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0313(HR)
5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i gynorthwyo adeiladwyr tai ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0320(HR)
6. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei brosiectau adfywio allweddol yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf? OAQ(4)0319(HR) TYNNWYD YN ÔL
7. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ystyriaethau wrth “alw” ceisiadau cynllunio i mewn? OAQ(4)0323(HR)W
8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen adfywio wedi'i thargedu Llywodraeth Cymru, sef Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid? OAQ(4)0314(HR)
9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru? OAQ(4)0310(HR)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion i ddiwygio dyletswyddau awdurdodau lleol ar letya cyn-garcharorion a chanddynt statws angen blaenoriaethol? OAQ(4)0312(HR)
11. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei weithredoedd i ailddechrau defnyddio tai gwag? OAQ(4)0324(HR)W
12. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau Llywodraeth Cymru i ymdrin ag eiddo gwag yng Nghymru? OAQ(4)0311(HR)
13. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyllid adfywio ar gyfer 2014/15? OAQ(4)0318(HR)
14. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai cymdeithasol yng Ngheredigion? OAQ(4)0317(HR)W
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i'r sector tai cydweithredol yng Nghymru? OAQ(4)0308(HR)